Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 a Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 31 Mawrth 2022
Amser:
13.02 -
15.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12697
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Russell George AS John Griffiths AS Jenny Rathbone AS Jack Sargeant AS Sam Rowlands AS Delyth Jewell AS |
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Andrew Jeffreys, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Aled ap Neill (Dirprwy Glerc) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Božo Lugonja (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd, David Rees AS, yr Aelodau a'r tystion i'r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies AS a Llyr Gruffydd AS; daeth Sam Rowlands AS a Delyth Jewell AS yn eu lle. Datganodd Jenny Rathbone buddiant fel cyfranddaliwr o Awel Ltd.
2 Costau byw
Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ar bolisïau yn ymwneud â chostau byw.
3 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Materion amserol
Gofynnodd Aelodau gwestiynau ar faterion amserol i’r Prif Weinidog.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Derbyniwyd y cynnig.
5 Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y cyfarfod blaenorol.